Ethos a Gwerthoedd/ Ethos and Values
"O Bydded i'r Heniaith Barhau"
Gweledigaeth:Teulu Hapus a Chroesawgar sy’n annog Cymry Cymraeg Balch.
Gyda’n gilydd, gallwn…
Gwerthoedd: Undod, Caredigrwydd, Parch, Gwerthfawrogiad, Cyfrifoldeb
Values: Unity, Kindness, Respect, Appreciation, Responsibility
Nodau ac Amcanion/ Aims and Objectives
Creu awyrgylch hapus, diogel lle rydym yn gweithio mewn parterniaeth a'n cymuned.
Ymfalchïwn yng nghyflawniadau safon uchel yr ysgol.
Anogwn ein disgyblion i barchu eraill a dangos cariad tuag at eu gwlad, iaith, diwylliant a threftadaeth.
Mae’n flaenoriaeth gennym i baratoi ein disgyblion i fod yn ddinasyddion cyfrifol a gofalgar.
Gweithiwn yn galed i feithrin gwerthoedd yn ein disgyblion a fydd yn eu paratoi at fod yn unigolion balch, hyderus a chyflawn.
Create a happy, safe environment working in partnership with our community.
We take pride in the high standard of achievement at the school.
We encourage children to respect others and demonstrate a love towards their country, language, culture and heritage.
Our priority is to develop our pupils to be responsible and caring citizens and work hard to install values in them that will make them proud, confident and well-rounded individuals.
Gweledigaeth/Vision
Ein gweledigaeth yw darparu addysg o`r ansawdd orau, a hynny trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg gan staff ymrwymedig a phroffesiynol sy`n anelu at y safonau addysgol gorau posib.
Wrth ddysgu a chwarae drwy gyfrwng y Gymraeg daw’r plant yn llwyr ddwyieithog yn gynnar iawn.
Our vision is to provide the best possible quality of education through the medium of Welsh, provided by committed and professional staff.
There’s a strong Welsh ethos throughout the school. By learning and playing through the medium of Welsh the children become bilingual at an early age.