Dwyieithrwydd/Bilingualism
Mae dwyieithrwydd yn cryfhau’r galluoedd gwybyddol – mae pobl ddwyieithog yn tueddu bod yn fwy creadigol a hyblyg. Maent yn tueddu i fod â meddwl mwy agored ac maent hefyd yn ei chael yn haws canolbwyntio ar amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd. Mae’r gallu i siarad dwy iaith yn helpu mewn ffyrdd eraill hefyd...
Addysg
- Mae plant dwyieithog yn tueddu i fod yn fwy llwyddiannus mewn addysg. Maent yn tueddu i gyflawni’n well mewn tasgau
- Mae pobl ddwyieithog yn ei gweld yn haws i ddysgu ieithoedd ychwanegol
- Mae plant sy’n derbyn addysg Gymraeg yn gwneud gystal, os nad gwell, yn Saesneg â phlant sy’n cael addysg Saesneg
Tystiolaeth: Adroddiad Estyn - Saesneg yng nghyfnodau allweddol 2 a 3 (.pdf) | Erthygl 'The Times' 11.4.17
Bywyd
- Mae siarad dwy iaith yn ehangu eich gorwelion
- Mae medru’r iaith Gymraeg yn rhoi mynediad i agweddau helaeth ar ddiwylliant, hanes a hunaniaeth Cymru
- Mae medru’r Gymraeg yn allwedd i fywyd cymunedol cyfoethog
- Mae medru’r Gymraeg yn rhoi hunaniaeth gadarn ac ymdeimlad o berthyn
- Mae medru newid o un iaith i’r llall yn hyderus yn magu hyder a balchder yn yr unigolyn
- Gall pobl aml-ieithog fod yn fwy goddefgar tuag at ddiwylliannau eraill
Tystiolaeth: Adroddiad ar fanteision dwyieithrwydd 'The Advantages of Bilingualism in Welsh and English' gan Yr Athro Colin Baker
Bilingualism strengthens cognitive abilities - bilingual people tend to be more creative and flexible. They can be more open-minded and they also find it easier to focus on a variety of tasks simultaneously. Being able to speak two languages helps in other ways too...
Education
- Bilingual children tend to be more successful in education. They tend to perform better in tasks
- Bilingual people find it easier to learn additional languages
- Children in Welsh medium education do just as well, if not better, in English as children in English medium education
Evidence: Estyn Report - English in key stages 2 and 3 (.pdf) | Article in The Times 11.4.17
Life
- Speaking two languages widens your horizons
- Being able to speak Welsh gives you access to many aspects of Welsh culture, history and identity
- Speaking Welsh can provide a key to a rich community life
- Being able to speak Welsh gives you a strong sense of identity and belonging
- Being able to switch from one language to the other with confidence gives the individual self-confidence and pride
- Speaking many languages can make people more tolerant towards other cultures
Evidence: A report on The Advantages of Bilingualism in Welsh and English by Professor Colin Baker