Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James

Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James

"O Bydded i'r
Heniaith Barhau"

twitter

 

Cyngor Iechyd a Lles/Health and Wellbeing

Cyngor Iechyd a Lles

Helo, a chroeso cynnes i chi gyd.  Rydym ni, Cyngor Iechyd a Lles yn edrych ymlaen at drefnu a chwblhau amryw o weithgareddau i hybu Iechyd a Lles a dealltwriaeth o Iechyd a Lles ein cyd-ddisgyblion.  

Mae yna dri ar ddeg aelod brwdfrydig gan gynnwys plant o flwyddyn 1 i flwyddyn 6. Cawsom ein hethol i’r Cyngor gan ein cyfoedion ac rydym yn barod i gefnogi pawb yng nghymuned yr ysgol i fyw bywyd hapus ac iachus. Mae eich barn yn bwysig i ni, ac rydym yn barod i’w leisio ar eich rhan.

Rydyn ni fel Cyngor wedi dewis i gefnogi Elusen Ysbyty Plant Arch Noa, elusen sydd yn agos atom ni gan fod ein cyd ddisgybl yn derbyn triniaeth wythnosol yna ar hyn o bryd. Mae cymaint o weithgareddau a phrosiectau ar y gorwel gan ddechrau ym mis Hydref gyda diwrnod i wisgo glas sef hoff liw ein cyd ddisgybl sydd yn derbyn triniaeth. Byddem yn ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth yn ystod y flwyddyn ac am unrhyw sylwadau a syniadau.  Ein harwyddair ydy “gyda’n gilydd gallwn …” felly awn amdani gyda’n gilydd!

 

Health and Wellbeing Council

Hello, and a warm welcome to you all.  We, the Health and Wellbeing Committee, are looking forward to organising and partaking in a variety of activities to promote Health and Wellbeing and to develop our fellow pupils' understanding of Health and Wellbeing. 

The committee consists of 13 members with pupils ranging in age from years 1 to 6. We have been nominated by our peers for this important role and we are ready to support every person in the school community to live a happy and healthy life.  Your opinions are important to us, and we are prepared to voice them on your behalf.  

As a Council we have chosen to support Noah’s Ark Children’s Hospital Charity a charity very close to us as a fellow pupil is currently receiving weekly treatment at the hospital.  We have planned lots of activities and projects for the year and our work will promptly begin in October as we have organised a day to wear blue our fellow pupil who’s currently undergoing treatments favourite colour. We will be very grateful for any support and suggestions that you can offer us during the year.  Our motto is “together we can …” therefore, let's move forwards together!