Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James

Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James

"O Bydded i'r
Heniaith Barhau"

twitter

Cyngor Eco/Eco Council

 

Y Cyngor Eco

Mae gan ein hysgol Gyngor Eco newydd sbon. Mae pob dosbarth o Flwyddyn 1 i 6 wedi ethol cynrychiolwyr i’r cyngor ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at gydweithio a gwella amgylchedd ein hysgol eleni. Rydym ni, aelodau o'r Cyngor Eco yn cynrychioli llais ein disgyblion o bob dosbarth. Rydym ni’n ddinasyddion egwyddorol gwybodus sy'n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a'r byd.

Mae nifer o weithgareddau a phrosiectau cyffrous gennym i’w trefnu. Ein nod ar gyfer y flwyddyn hon yw codi ymwybyddiaeth cymuned ein hysgol o sut i ofalu am ein hamgylchedd a byw yn fwy “gwyrdd”.

Os oes gennych unrhyw syniad neu awgrym arbennig, cofiwch gysylltu â ni. Gyda’n gilydd, gallwn ofalu am ein hamgylchedd a chreu byd gwell i bawb. 

Ein targedau ar gyfer eleni yw:

  1. Ailgylchu gwisg ysgol
  2. Ail edrych ar system ailgylchu’r ysgol
  3. Lleihau’r cyfanswm o ddwr rydyn ni’n ddefnyddio yn yr ysgol


The Eco Council

Our school has a brand new Eco Council. All classes from Year 1 to 6 have elected representatives to the council and we are very much looking forward to working together and improving our school environment this year. We, members of the Eco Council represent each pupil’s voice. We are informed principled citizens who are ready to be citizens of Wales and the world.

We have a number of exciting activities and projects to organise. Our aim for this year is to raise awareness in our school community of how to look after our environment and live a “greener” life.

If you have an idea or suggestion that you think we could adopt, please contact us. Together, we can look after our environment and create a better world for everyone.

Our targets for this year are:

  1. Recycle school uniform
  2. Re look at the recycling systems in the school
  3. Reduce the amount of water we use in the school